Mae grŵp sydd wedi bod yn ymgyrchu ar ran Y Cymro wedi cyhoeddi y bydd y papur newydd yn cael ei atgyfodi ym mis Mawrth 2018.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil penderfyniad Cyngor Llyfrau Cymru i gefnogi cais grant gan Gyfeillion Y Cymro.

Byddan nhw’n derbyn grant o £13,500 ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol 2017/18, ac yn parhau dan nawdd o £18,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

Nod y grŵp yw ail-lansio’r papur ar Ddydd Gŵyl Dewi, cyn ei gyhoeddi yn fisol.

Mae Cyfeillion Y Cymro yn chwilio am staff ac ysgrifenwyr newydd, ac yn annog unrhyw un sydd am fod yn rhan o’r fenter i gysylltu â nhw trwy eu cyfrif Twitter.

Newydd wedd

“Mae hyn nawr yn rhoi llwyfan i ni weiddi: mae Y Cymro ar ei ffordd yn ôl, ar ei newydd wedd, ar amser pan mae Cymry Cymraeg angen llais cryf, newyddiaduraeth ac ysgrifennu ffraeth a phlatfform i rannu syniadau,” meddai Cadeirydd Cyfeillion y Cymro, Lyn Ebenezer.

“Yn ystod amser o newidiadau mawr, gyda thoriadau gwariant, Brexit a chwestiynau di-ri ynglŷn ag ein cymunedau a’n hiaith, mae’n hollbwysig bod gennym ni fel cenedl blatfform fel Y Cymro i rannu barn yn ein hiaith ein hunain.”