Chris Coleman yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Sunderland.

Daeth cadarnhad o’i benodiad y prynhawn yma, ar ôl iddo lofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner i olynu Simon Grayson.

Mae’r tîm ar waelod y Bencampwriaeth, ac fe fydd e wrth y llyw am y tro cyntaf nos Fawrth ar gyfer y gêm yn erbyn Aston Villa.

Y Cymro o Abertawe yw nawfed rheolwr y clwb mewn chwe thymor.

‘Chwe blynedd cofiadwy’

Wrth cadarnhau’r penodiad, dywedodd Clwb Pêl-droed mewn datganiad: “Mae Sunderland AFC wrth ein boddau o gael cyhoeddi mai Chris Coleman yw rheolwr newydd y clwb.

“Mae’r Cymro wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner yn y Stadium of Light ac mae’n cyrraedd ar ôl chwe blynedd cofiadwy yn rheolwr ar Gymru, lle arweiniodd ei wlad i 10 uchaf rhestr detholion FIFA a chael rhediad anhygoel i rownd gyn-derfynol Ewro 2016.”

Mae lle i gredu bod nifer o glybiau, gan Glasgow Rangers, yn awyddus i’w benodi ers iddo ymddiswyddo nos Wener.

Sunderland yw’r pumed clwb iddo ei reoli yn ystod ei yrfa, yn dilyn cyfnodau wrth y llyw yn Fulham, Real Sociedad, Coventry ac AEL.

Mae Sunderland heb fuddugoliaeth mewn 20 o gemau.

‘Potensial’

Ar ôl cael ei benodi, dywedodd Chris Coleman ei fod yn gweld y “potensial” yn y clwb.

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n rheolwr ar Sunderland AFC ac rwy wrth fy modd fod y clwb yn credu mai fi yw’r dyn cywir.

“Fe weithiodd y clwb yn eithriadol o galed er mwyn sicrhau ein bod ni’n ffitio’n dda ac i ddangos y potensial i fi o ran yr hyn all gael ei gyflawni yma.

“Rwy’n credu bod gan bob person, pob chwaraewr a phob cefnogwr yn y clwb pêl-droed hwn ran i’w chwarae wrth fynd â ni’n ôl i le’r ydyn ni’n perthyn.”

‘Prif ddewis amlwg’

Dywedodd prif weithredwr y clwb, Martin Bain mai Chris Coleman oedd y “prif ddewis amlwg” ar gyfer y swydd, gan gadarnhau mai Kit Symons fydd ei is-reolwr.

“Ry’n ni wrth ein boddau ei fod e a Kit Symons, ei is-reolwr, wedi ymuno â ni ac ry’n ni nawr yn canolbwyntio ar gydweithio i gael y clwb pêl-droed i symud yn y cyfeiriad iawn.”