Mae’n bosib y bydd safleoedd yng Nghymru yn cael eu defnyddio i ehangu maes awyr Heathrow.

Mae 65 o leoedd ledled gwledydd Prydain wedi cael eu dewis i fod ar y rhestr hir o safleoedd posib i adeiladu trydedd llain lanio i’r maes awyr, a saith o’r rheini yng Nghymru.

Er bod addewid i greu swyddi mewn sawl cornel o wledydd Prydain, dim ond pedwar lle fydd yn cael eu dewis i wneud y gwaith yn y diwedd.

Yng Nghymru, mae dau borthladd ar y rhestr hir – un yng Nghaerdydd a’r llall yng Nghasnewydd.

Y mannau eraill sydd ar y rhestr yw Glannau Dyfrdwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Glyn Ebwy, Llanwern a safle TATA yn Shotton.

‘Croesawu cyfleoedd i Gymru’

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: “Rwy’n falch iawn o weld saith o safleoedd gwahanol ar draws pum lleoliad yng Nghymru yn ymddangos ar y rhestr hir o safleoedd posibl ar gyfer canolfan logisteg Heathrow.

“Mae eu cynnwys yn tynnu sylw at y cyfleoedd gwirioneddol sydd gan Heathrow i adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau â busnesau Cymru ac ein harbenigedd lleol.

“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i agor sianeli cymorth seilwaith i hybu economi Cymru. Drwy gefnogi adeiladu rhedfa newydd yn Heathrow, rydym yn anfon neges glir i’r byd bod Prydain gyfan ar agor ar gyfer busnes.

“Mae ehangu maes awyr Heathrow yn gam cywir i gwmnïau o Gymru, ar gyfer teithwyr Cymru ac ar gyfer ein cymunedau. Gadewch i ni arddel perchenogaeth lwyr ar y cyfleoedd mae’r prosiect ehangu yn cyflwyno.”