Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cydnabod nad yw ei phlaid hi wedi delio gyda honiadau o aflonyddu rhywiol yn ddigon difrifol yn y gorffennol.

Wrth siarad â’r wasg fore heddiw, dywedodd Leanne Wood nad oedd Plaid Cymru wedi trin achosion dau gyn-aelod o staff “gyda’r difrifoldeb yr oeddwn nhw’n eu haeddu”.

Dywedodd fod y blaid wedi cynnal cyfarfod arbennig i grŵp a staff Plaid Cymru dydd Mawrth diwethaf (Tachwedd 7) cyn y newyddion am farwolaeth Carl Sargeant, i drafod aflonyddu rhywiol – mater sydd wedi bod yn ganolog yn y byd gwleidyddol dros yr wythnosau diwethaf.

“Dw i’n credu ei fod yn bwysig dweud nad oes yr un blaid yn rhydd rhag y pryderon hyn, a dyna pam oeddwn i’n awyddus iawn i gydnabod dau gydweithiwr a staff, a wnaeth Plaid Cymru efallai ddim trin eu hachosion o aflonyddu gyda’r difrifoldeb yr oedden nhw’n eu haeddu,” meddai Leanne Wood.

“Mae’r sefyllfa yna a’r diwylliant sydd wedi cael ei dderbyn mewn gwleidyddiaeth yn gorfod cael ei newid.”

Cwynion 

Dywedodd fod y cwynion hynny gan dau aelod o staff yn rhai hanesyddol oedd wedi digwydd cyn i’w chyfnod hi fel arweinydd Plaid Cymru ac nad oes yr un cwyn wedi dod ati hi fel arweinydd eto.

Wrth gyfeirio at stori cyn-ymchwilydd Plaid Cymru, Siân Powell, a ddywedodd wrth y BBC fod Aelod Cynulliad wedi ceisio ei chusanu, dywedodd Leanne Wood ei bod wedi cysylltu gyda hi.

“Dw i’n deall bod yr hyn roedd hi yn ei gyfeirio ato wedi digwydd amser hir yn ôl, ond dw i’n awyddus ei bod hi ac eraill sydd wedi codi llais yn cael cymorth,” meddai.

Mae Plaid Cymru wedi adolygu ei dulliau wrth ddelio gydag honiadau o aflonyddu rhywiol, meddai, a bod hynny’n cynnwys cael cyngor annibynnol gan yr elusen New Pathways a datblygu rhaglen hyfforddiant i wleidyddion etholedig a staff.

“Cwestiynau i’w hateb”

“Nid nawr yw’r amser i neidio i gasgliadau, yn hytrach, mae’n rhaid i ni geisio cael cyfiawnder i’r holl bobol sydd’n rhan o hyn,” meddai Leanne Wood am amgylchiadau marwolaeth Carl Sargeant.

“Mae yna gwestiynau sydd angen i’w hateb yng ngoleuni hyn i gyd… dw i’n falch y bydd ymchwiliad annibynnol i’r amgylchiadau a’r penderfyniadau a cafodd eu gwneud gan y Prif Weinidog.

“Mae’n rhy gynnar i wneud unrhyw sylw am ddyfodol gwleidyddol unrhyw un cyn yr ymchwiliad hwnnw a dyna pam dw i heb wneud hynny.”