Mi ddylai Llywodraeth Prydain sicrhau fod y ffin rhwng Cymru â Gweriniaeth Iwerddon yn “ffin feddal” heb oedi na thollau sylweddol, yn ôl un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru.

Mae Jonathan Edwards yn mynegi pryder am gynlluniau’r llywodraeth i ymadael â’r Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl wedi Brexit, gan esbonio y byddai “goblygiadau enfawr” ar borthladdoedd Cymru.

Yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (Tachwedd 13) mi ofynnodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am ymrwymiad i ddyfodol porthladdoedd Cymru gan yr Ysgrifennydd Brexit, David Davies.

‘Cysylltiad allweddol’

Yn ôl Jonathan Edwards, mae peryg fod Llywodraeth Prydain yn ystyried cyflwyno “ffin feddal” rhwng Gogledd Iwerddon â’r Weriniaeth.

Byddai hyn yn golygu fod modd “trosglwyddo nwyddau’n hwylusach” o Brydain i’r Undeb Ewropeaidd, meddai wrth golwg360.

Yn sgil hynny, mae’n ychwanegu y gallai cwmnïau droi at ddefnyddio porthladdoedd Yr Alban neu ogledd Lloegr i drosglwyddo nwyddau’n syth i Belffast yng Ngogledd Iwerddon, yn hytrach nag i’r Weriniaeth o Gymru.

“Mae’r tri phorthladd yn gysylltiad allweddol rhwng Cymru â Gweriniaeth Iwerddon,” meddai Jonathan Edwards gan gyfeirio at Gaergybi, Abergwaun a Doc Penfro sy’n bwydo Dulyn a Rosslare yn bennaf.

‘Ffin feddal’

“Byddai pob un o borthladdoedd Cymru yn wynebu’r un sefyllfa achos dydyn nhw ddim yn cysylltu â Belffast,” meddai Jonathan Edwards.

“Fe allai cwmnïau symud eu trefniadau cludiant,” meddai wedyn gan ychwanegu fod gan hynny “oblygiadau enfawr” i Gymru.

Mae’n ychwanegu fod “miloedd” yn elwa ar swyddi “uniongyrchol ac anuniongyrchol” drwy’r porthladdoedd hyn.

“Os maen nhw [Llywodraeth Prydain] yn gallu gwneud ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon â’r Weriniaeth, pam nad oes modd cael ffin feddal rhwng Cymru â’r Weriniaeth,” meddai wedyn.