Dyw’r pwysau ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddim wedi lleihau yn dilyn ei ddatganiad neithiwr am farwolaeth y cyn-weinidog, Carl Sargeant.
Mae’r ddwy brif wrthblaid wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’r digwyddiadau a arweiniodd at hynny, gan ddweud bod ymateb y Prif Weinidog yn annigonol.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru, mae gormod o gwestiynau’n aros heb eu hateb.
Galw am ymchwiliad
Gyda phlaid UKIP yn y Cynulliad yn bwriadu cynnig pleidlais o ddiffyg hyder ynddo, mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru wedi dweud bod y digwyddiadau “trasig” wedi tanseilio hyder y cyhoedd ynddo.
Mae’n rhaid cael ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth AC Alyn a Glannau Dyfrdwy, meddai.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae angen ymchwiliad “aeddfed, urddasol a pharchus” – heb hynny, fe fydd dioddefaint pawb sy’n rhan o’r digwyddiadau yn parhau.
Y datganiad
Roedd Carwyn Jones wedi pwysleisio yn ei ddatganiad ei fod yn credu ei fod wedi ymddwyn yn unol â’r rheolau a’i fod yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a allai godi mewn cwest.
Doedd ganddo ddim dewis, meddai, ond gweithredu fel y gwnaeth – yn rhoi’r mater yn nwylo ymchwiliad disgyblu mewnol gan y Blaid Lafur ac yn gofyn i Carl Sargeant roi’r gorau i’w swydd.
Roedd hefyd wedi mynegi ei dristwch personol gan ddweud mai’r dyddiau diwetha’ oedd y rhai “duaf” yn hanes y Cynulliad.
Cyfarfod
Roedd ei ddatganiad wedi dod ar ôl cyfarfod rhyngddo ef ac Aelodau Cynulliad Llafur – fe wnaeth y grŵp hefyd gyhoeddi datganiad wedyn.
Doedd hwnnw’n cyfeirio dim at weithredoedd y Prif Weinidog ond yn mynegi cymdymdeimlad llwyr gyda theulu Carl Sargeant.
“Yn Carl, mae Cymru wedi colli un o’r bobol mwya’ tosturiol, cefnogol a llawn ysbryd y gallech chi ddymuno’u cyfarfod,” medden nhw. “Roedd yn ffrind mawr i bawb ohonom yma ac i lawer rhagor tros Gymru.”