Fe fydd Aelodau Cynulliad Llafur yn ymgynnull yfory i gofio’r diweddar Carl Sargeant, yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog.
Fe fyddan nhw hefyd yn trafod “digwyddiadau trasig yr wythnos ddiwethaf” ac mae disgwyl i Carwyn Jones wneud datganiad pellach yn dilyn y cyfarfod.
“Mae hwn yn gyfnod caled i bawb, yn enwedig teulu Carl, sydd o hyd yn trio derbyn y newyddion ofnadwy,” meddai llefarydd ar ran Carwyn Jones.
“Mae Carwyn Jones wedi’i dristau’n fawr gan farwolaeth ei ffrind, yn yr un modd ag y mae pawb yn nheulu Llafur Cymru.”