Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau heddiw (Tachwedd 6) sy’n ystyried sut y bydd deunydd ymbelydrol yn cael ei drin a’i waredu o orsaf bŵer newydd yn Ynys Môn.
Er mwyn medru adeiladu gorsaf Wylfa Newydd yn Nhregele, mi fydd yn rhaid i gwmni Horizon – sef y cwmni sydd yn gyfrifol am y datblygiad – dderbyn cyfres o drwyddedau.
Y cyntaf o’r trwyddedau yma yw’r drwydded ‘Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol’ a chorff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sydd yn gyfrifol am ei chaniatáu.
Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad bydd CNC hefyd yn ystyried os ydy’r cwmni wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd ac yn galw am dystiolaeth o hyn.
Asesiad trylwyr
“Byddwn yn cynnal asesiad trylwyr o gynigion Horizon i weld a ydynt yn cynnwys elfennau diogelu digonol i amddiffyn pobl a’r amgylchedd cyn penderfynu a fydd y drwydded yn cael ei rhoi neu a fydd y cais yn cael ei wrthod,” meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC i ogledd a chanolbarth Cymru.
“Byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a byddem yn gwerthfawrogi clywed barn a syniadau pobl eraill.”
Ymgynghoriadau
Bydd y cyfnod ymgynghori yn para tan Ionawr 14 ac mae tair sesiwn galw heibio wedi eu trefnu ar gyfer pobol leol.
- Tachwedd 20: 2pm-7pm – Neuadd David Hughes, Cemaes, LL67 0LW
- Tachwedd 21: 2pm-7pm – Storiel, Bangor, LL57 1DT
- Tachwedd 22: 11am – 4pm – Canolfan Ebeneser, Llangefni, LL77 7PN