Mae beiciwr modur 26 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char yn Abertawe brynhawn dydd Gwener.

Bu farw’n dilyn y digwyddiad ar ffordd A4067, pan darodd yn erbyn Fiat Punto oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Roedd oedi hir ar yr M4 brynhawn dydd Gwener.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.