Mae tri phlentyn wedi cael eu hanfon gartref o’r ysbyty ar ôl dianc o’r tân mewn tŷ yn Llangamarch lle y credir i’w tad a phump o blant eraill gael eu lladd.

Mae’r plant, 13, 12 a 10 oed bellach yng ngofal aelodau o’r teulu, meddai datganiad gan Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae’r teulu’n parhau i fod yn flaenoriaeth, ac rydyn ni’n ailadrodd eu dymuniad i’w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod hwn,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Mae’r teulu’n ddiolchgar i’w holl ffrindiau ac i’r gymuned leol am yr holl gefnogaeth, pob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atyn nhw.

“Mae’n ymchwiliad hynod o anodd i’n swyddogion, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’r teulu a phob un sydd wedi’i effeithio.”