Mae clwstwr o fudiadau iaith Cymru wedi beirniadu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru gan ddweud ei fod yn tynnu sylw oddi wrth yr ymdrechion i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 Mi gafodd y Papur Gwyn ei lansio ar faes prifwyl Môn eleni ac un o’i brif argymhellion yw sefydlu Comisiwn y Gymraeg a fyddai’n disodli rôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Ond yn ôl y mudiadau sy’n gweithredu o dan yr enw ‘Dathlu’r Gymraeg’ does dim tystiolaeth i gyfiawnhau diddymu rôl y Comisiynydd.

Am hynny maen nhw’n galw am “bwyllo ac oedi” cyn cyflwyno cynlluniau’r papur gwyn.

 ‘Pwyllo ac oedi’

Mae’r mudiadau sydd wedi arwyddo’r llythyr agored yn cynnwys Mentrau Iaith Cymru, undeb athrawon UCAC, Cymdeithas yr Iaith, Rhieni dros Addysg Gymraeg a’r Mudiad Meithrin.

Mae’r llythyr yn cydnabod yr angen am “reoleiddiwr annibynnol a grymus” i wella hawliau i’r Gymraeg.

Ond maen nhw’n nodi y gall y Papur Gwyn “ddargyfeirio ymdrechion y Llywodraeth o’r gwaith pwysig o weithredu Strategaeth y Gymraeg, sydd wedi ennyn cefnogaeth o bob cwr o Gymru.”

“Credwn felly y byddai mantais pwyllo ac oedi cyn cyflwyno newidiadau mor bellgyrhaeddol â’r rhai sydd yn y papur gwyn,” meddai’r llythyr.

‘Cryfhau nid gwanhau’

Yn ôl Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, “credwn fod angen dechrau unrhyw drafodaeth ynghylch deddfwriaeth iaith gan ystyried anghenion pobl a’u defnydd o’r Gymraeg ynghyd â dylanwadu ar ddefnydd iaith ymhlith cenedlaethau’r dyfodol.”

“Dylai unrhyw gynigion gryfhau, yn hytrach na gwanhau, hawliau pobl i’r Gymraeg,” meddai wedyn.