Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn 56 oed sydd ar goll o Gaerdydd.
Dyw Graham Brown ddim wedi cael ei weld ers iddo fe adael ei gartref yng Nghei Fictoria ddydd Gwener.
Mae e’n ddyn gwyn, 5’11” o daldra a chanddo fe wallt llwyd byr a thrwchus, a llygaid glas.
Mae lle i gredu ei fod e’n gwisgo dillad beicio tywyll pan aeth ar goll, a bod ganddo fe sach ar ei gefn.
Mae ei feic mynydd yn wyn a choch.
Apêl
Mae’r heddlu wedi gofyn i yrwyr wirio lluniau eu dash-cam rhag ofn ei fod yn ymddangos ynddyn nhw.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n gofidio amdano.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.