Mae tri chriw gwahanol o bobol wedi cael eu hachub ym Mannau Brycheiniog yn dilyn tywydd niwlog.
Dywedodd y tîm achub lleol eu bod nhw wedi derbyn galwad brynhawn Sadwrn yn dweud bod teulu ifanc mewn trafferthion.
Cafodd dau o bobol eraill eu darganfod wedyn.
Cafodd dynes arall ei hachub o fynydd Pen Y Fan yn ddiweddarach.