Mae holl benodau’r ddrama drosedd ddwyieithog Bang i’w gosod ar wefan S4C ac ar BBC i-Player – y tro cyntaf erioed i gyfres ddrama S4C fod ar gael fel bocs-set ar-lein.

Mae’r ddrama yn adrodd hanes dyn ifanc o’r enw ‘Sam’ sy’n cael gafael ar ddryll ac yn ei ddefnyddio i ddwyn.

Ar yr un pryd mae ei chwaer ‘Gina’ yn blismones uchelgeisiol sy’n ceisio dod o hyd i’r gwn sydd wedi ei ddefnyddio i lofruddio.

Mae’r gyfres wedi ei lleoli ym Mhort Talbot ac mae’r darlledwr SVT o Sweden wedi talu am yr hawl i ddangos Bang yno.

“Cyfres berffaith” i fod yn bocs-set cynta’ S4C

Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees: “Bang yw’r gyfres berffaith i gael ei ryddhau fel bocs cyntaf y sianel. Mae hi’n ddrama drosedd bwerus sydd eisoes wedi perfformio’n eithriadol o dda ar alw ac mae wedi dal dychymyg cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Mae sicrhau bod pob pennod ar gael ar-lein am gyfnod hirach fel y gall ein gwylwyr ei wylio yn eu hamser eu hunain yn gwneud synnwyr perffaith. Mewn amgylchedd darlledu ble mae hi’n normal gwylio cyfresi cyfan ar unwaith, mae hyn yn newyddion gwych nid yn unig i S4C ond hefyd i’r gwylwyr.”

Meddai Roger Williams, awdur ac uwch-gynhyrchydd y gyfres ar gyfer Joio: “Mae stori Sam a Gina wedi gafael yn nychymyg cynulleidfaoedd. Wrth i Bang gael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C, roedd hi’n gyffredin iawn clywed pobl yn dweud nad oedden nhw eisiau aros wythnos i ddarganfod beth sy’n digwydd nesaf. Nawr, bydd pobl yn gallu gwylio’r wyth bennod yn syth ar ôl ei gilydd. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu helpu rhoi Bang ar-lein yn hirach.”