Bydd rali yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd dros y penwythnos i gefnogi’r ymgyrch annibyniaeth yng Nghatalwnia.

Bydd y Rali Genedlaethol yn cael ei chynnal gan fudiad ‘Yes Cymru’ – grŵp sydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru – brynhawn dydd Sadwrn,.

Ymysg y siaradwyr fydd yn cyfrannu at y digwyddiad fydd Prif Gynrychiolydd Llywodraeth Catalwnia i’r Deyrnas Unedig, Sergi Marcén, a’r Aelod Senedd Ewropeaidd, Jill Evans.

Cyfle i gefnogi

“Mae’r trais a ddioddefodd etholwyr heddychlon Catalwnia gan heddlu arfog Sbaen yn hollol annerbyniol yn yr Ewrop fodern,” meddai Cadeirydd YesCymru, Iestyn ap Rhobert.

“Bydd y rali yn gyfle i bobol Cymru ddatgan yn glir ein bod yn cefnogi pobl Catalwnia, ein bod yn cefnogi democratiaeth a’n bod ni’n gwrthwynebu trais.”