Arwel Ellis Owen
Mae aelod o Awdurdod S4C wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu cymryd rhan yn y cyfweliadau ddydd Gwener er ei fod yn gyfaill i un o’r ymgeiswyr tebygol.

Mae Winston Roddick QC yn un o naw aelod o’r Awdurdod fydd ar y panel wrth gyfweld yr ymgeiswyr ddydd Gwener.

Mae Golwg 360 ar ddeall fod Arwel Ellis Owen, y Prif Weithredwr dros-dro, Rhodri Williams, Aled Eurig, a Geraint Rowlands ymysg yr enwau sy’n debygol o gael eu cyfweld.

Ar y Gofrestr o Fuddiannau ar wefan S4C mae’r bargyfreithiwr Winston Roddick yn nodi ei fod “yn ffrind i Arwel Ellis Owen, cyfarwyddwr Cambrensis, cwmni cyfarwyddo ffilmiau annibynnol”.

“Mae Arwel Ellis Owen hefyd wedi trin datganiadau i’r wasg ar fy rhan o dro i dro,” meddai.

Serch hynny dywedodd Winston Roddick ei fod yn bwriadu cymryd rhan yn y broses o benodi prif weithredwr y sianel.

“Rydw i’n meddwl ei fod yn addas,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail. “Rydw i wedi datgan yn agored [ein bod ni’n ffrindiau] a mae hynny ar y cofnod.”

Dywedodd S4C y bydd rhaid i bob aelod o’r panel ddatgan unrhyw fuddiannau neu gysylltiadau cyn cychwyn y cyfarfod.