Dafydd Elis-Thomas
Yr Undeb Ewropeaidd – nid y Deyrnas Unedig – a ddylai gael sedd wrth fwrdd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, meddai Dafydd Elis-Thomas.

Fe fyddai hynny’n golygu cael gwared ar y sedd barhaol sydd wedi rhoi grym mawr i wledydd Prydain ers sefydlu’r CU.

Ar hyn o bryd, mae hi’n un o bum gwlad sydd â’r hawl i gael fito ar unrhyw benderfyniadau o fewn y Cyngor Diogelwch, uned weithredol y corff rhyngwladol.

Roedd hynny’n rhan o’r newid oedd ei angen mewn nifer o sefydliadau rhyngwladol, meddai cyn Lywydd y Cynulliad sydd bellach yn ceisio bod yn arweinydd ar Blaid Cymru am yr ail dro.

Annibyniaeth o fewn Ewrop ‘yn dderbyniol’

Ac fe ddywedodd wrth raglen Radio Wales, Sunday Supplement, ei fod yn gallu derbyn penderfyniad cynhadledd Plaid Cymru i ymgyrchu tros annibyniaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Ddeuddydd ynghynt, roedd wedi gwneud datganiad yn mynnu mai “rhith” oedd annibyniaeth ond roedd yn fodlon, meddai, ar y syniad o lais annibynnol o fewn yr Undeb.