Wembley
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ladd un o gefnogwyr pêl-droed Cymru cyn y gêm yn erbyn Lloegr nos Fawrth.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa gan Heddlu West Mercia a’r disgwyl yw y bydd yn ymddangos o flaen llys yfory.

Fe gafodd y dyn 41 oed o Swydd Caerwrangon – Worcestershire – ei arestio ddydd Gwener a’i gyhuddo neithiwr o ddynladdiad Michael Dye, 44 oed, o Gaerdydd.

Fe gafodd Michael Dye ei anafu mewn gwrthdaro y tu allan i stadiwm Wembley ac fe fu farw’n ddiweddarach yn Ysbyty Northwick.

‘Canlyniadau catastroffig’

Yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd Gweithredol, Sheila Stewart, roedd y digwyddiad yn “ganlyniad i ennyd o drais cïaidd gyda chanlyniadau catastroffig”.

Roedd yna funud o dawelwch cyn gêm Caerdydd ddoe i gofio am Michael Dye.

Ynghynt yr wythnos ddiwetha’, roedd chwech o gefnogwyr o Gymru wedi cael eu harestio ond fe gawson nhw eu rhyddhau wedyn a chael gwybod na fyddai unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn.