Michael Dye
Mae seithfed dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth cefnogwr pêl-droed o Gymru y tu allan i Stadiwm Wembley, meddai Heddlu’r Met heddiw.

Cafodd dyn 41 oed ei arestio yn Swydd Gaerwrangon neithiwr ar amheuaeth o lofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Mae’r ditectifs yn ymchwilio i lofruddiaeth Michael Dye, 44, o Gaerdydd. Daethpwyd o hyd iddo ger Giat C Wembley cyn gêm Cymru a Lloegr ddydd Mawrth.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Northwick Park ond fe fu farw. Dangosodd archwiliad post-mortem ei fod wedi marw o ganlyniad i ergyd i gefn ei ben.

Cafodd chwech o gefnogwyr Cymru eu harestio mewn cysylltiad â’i farwolaeth ond maen nhw bellach wedi eu rhyddhau heb gael eu cyhuddo.

Galwodd y Ditectif Brif Archwilydd Sheila Stewart am gymorth y cyhoedd gan ddweud fod “eiliad o drais creulon wedi cael canlyniadau trychinebus”.