Seren Bernard
Daethpwyd o hyd i ferch 14 oed o Sir Benfro oedd wedi bod ar goll am 10 diwrnod ddydd Sul, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd Seren Bernard o Hwlffordd ei gweld yng nghanolfan siopa’r dref ddydd Sadwrn diwethaf ar ôl mynd ar goll ar 31 Awst.

Roedd yr heddlu wedi ymestyn y chwilio i Gernyw lle’r oedd ganddi deulu.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n “ddiolchgar iawn am y cymorth a dderbyniwyd yn dilyn ein cais am wybodaeth”.