Elin Jones
Bydd un o’r ymgeiswyr i arwain Plaid Cymru yn annog ei phlaid i “gynnwys” rhagor o bobol Cymru, heddiw.

Fe fydd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, yn defnyddio ei araith yng nghynhadledd y blaid yn Llandudno i bwysleisio bod Plaid Cymru yn blaid i bawb yng Nghymru.

“Mae angen i ni agor ein drysau i ragor o bobol a mynd y tu hwnt i beth yden ni’n teimlo’n gyffyrddus ag ef,” meddai.

“Mae angen i ni drafod beth yw ein gobeithion ni i Gymru gyda rhagor o bobol.

“Nid yn unig mae angen i ni fod yn areithio o flaen rali heddwch, a phrotest iaith, neu linell biced undeb amaethyddol – mae angen i ni fod yn trafod â grwpiau menywod, siambrau masnach a’r Llengoedd Prydeinig.”

Clywodd y gynhadledd gan Ieuan Wyn Jones, a roddodd ei araith olaf yn arweinydd y blaid ddydd Gwener.

Mae Elin Jones eisoes wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu sefyll yn y ras i’w olynu.

“Os ydi pobol eisiau’r gorau i Gymru, i’w hunain hunain a’u cymuned, yna mae Plaid Cymru iddyn nhw,” meddai.

“Dyw Plaid Cymru ddim yn ffafrio unrhyw iaith, unrhyw hil nac unrhyw fan geni.

“Mae yna le ym Mhlaid Cymru i ymgyrchwyr iaith Gymraeg, plymwr o Abertawe a phâr priod o Wigan sydd wedi ymddeol i Bwllheli.”