Elfyn Llwyd
Rhaid cynnwys grymoedd dros ynni mewn comisiwn arfaethedig ar ddatganoli, meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, heddiw.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar gomisiwn ‘Calman-aidd’ Llywodraeth San Steffan, a fydd yn dechrau o fewn y misoedd nesaf, i ystyried ynni, yr heddlu a darlledu.

Cafodd y comisiwn ei sefydlu er mwyn argymell newidiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol a fyddai yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wella’r modd y mae yn gwasanaethu pobol Cymru.

Wrth draddodi araith yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Llandudno heddiw, fe fydd Elfyn Llwyd yn dweud fod pob un o’r prif bleidiau wedi addo brwydro am ddatganoli pellach ym maes ynni yn yr etholiad ym mis Mai.

Ond fe fydd yn honni nad oes gan Lywodraeth San Steffan unrhyw fwriad o gadw at eu “haddewid” i bobol Cymru.

“Roedd pob un o’r pleidiau wedi ysgrifennu yn eu maniffestos  yn ystod yr etholiad eu bod nhw’n bwriadu brwydro am ragor o rymoedd ym maes ynni i Gynulliad Cymru,” meddai.

“Ar ôl bron i 20 mlynedd yn San Steffan, mae agwedd Llywodraeth y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y mater yma wedi rhoi braw i mi.

“Yr wythnos yma dywedodd y Gweinidog Ynni y byddai yn gwrthod datganoli’r grymoedd i Gymru am nad oedd yng nghytundeb y glymblaid.

“Cafodd y cytundeb hwnnw ei ysgrifennu yn 2010. Roedd Etholiadau’r Cynulliad yn 2011.

“Oedd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi anghofio gofyn am ganiatâd cyn ei gynnwys yn ei maniffestos?”

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â phrosiectau egni “hyd at 50 Megawat”.

“San Steffan sy’n rheoli unrhyw beth y tu hwnt i hynny, felly mae yna wrthdaro rhwng dau agenda ynni.

“Does gennym ni yng Nghymru ddim yr hawl i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein gwlad,” meddai Elfyn Llwyd.

“Rhaid i hynny newid ac fe fyddwn ni’n parhau i wthio er mwyn sicrhau fod Cymru yn gallu gwneud ei phenderfyniadau ei hun ar ynni, ar ynni adnewyddadwy, ac ar ddatblygiadau ar ein tir ein hunain.”