Stadiwm Wembley
 Ni fydd chwech o gefnogwyr Cymru oedd ar fechnïaeth yn dilyn marwolaeth dyn o Gaerdydd nos Fawrth, yn wynebu unrhyw gyhuddiadau.

 Mae Heddlu Llundain sy’n ymchwilio i farwolaeth cefnogwr tîm pêl-droed Cymru wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n cymryd camau pellach yn erbyn y cefnogwyr.

 Daethpwyd o hyd i Mike Dye yn dioddef o anafiadau i’w ben y tu allan i lidiart Stadiwm Wembley tua 7.20pm ar noson y gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr.

Dywedodd parafeddygon ei fod hefyd wedi dioddef o drawiad ar y galon cyn cyrraedd yr ysbyty.

Teyrngedau

Roedd Mike Dye yn gweithio yn adran y priffyrdd Cyngor Caerdydd a dywedodd ei gyd-weithwyr eu bod nhw wedi torri eu calonnau.

“Roedd yn gyfaill a chydweithiwr da oedd wedi rhoi 20 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor,” meddai’r Prif Weithredwr, Jon House.

“Mae ein cydymdeimladau ni â’i deulu ac fe fyddwn ni’n cynnig cefnogaeth iddyn nhw a’i gydweithwyr.”

Mae miloedd o bobol wedi gadael negeseuon ar Facebook dan y teitl ‘RIP Mike Dye’. Mae sawl un yn cyfeirio at ei wraig Nathalie a’i blant.

“Roeddet ti’n berson hyfryd sydd wedi ein gadael ni’n rhy fuan. Cydymdeimladau dwys i’r teulu cyfan,” ysgrifennodd Lisa Kavanagh.

“Doeddwn i ddim yn dy nabod di ond fel pawb arall mae clywed am hyn wedi fy ngwneud i’n sâl,” meddai Carol Binding.

Roedd Mike Dye yn cefnogi clwb pêl-droed Caerdydd ers blynyddoedd ac yn ysgrifennu am y clwb ar fforwm drafod y clwb.