Mae’r Heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig angheuol yng Nghoedpoeth brynhawn ddydd Mercher.
Fe hysbyswyd yr Heddlu o’r digwyddiad oedd yn cynnwys beiciwr tua chwarter i bedwar brynhawn dydd Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Rhosberse, Coedpoeth ger Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant ac mae ymchwiliadau i’r digwyddiad yn parhau, meddai’r Heddlu.
Daethpwyd o hyd i’r beiciwr – dyn 28 oed, yn y lleoliad.
Roedd y Gwasanaeth Ambiwlans a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yno ac fe gafodd ei gadarnhau fod y beiciwr wedi marw yn y lleoliad.
Ar hyn o bryd, nid yw’r Heddlu’n credu bod unrhyw gerbydau eraill yn rhan o’r digwyddiad.
Ond, maen nhw’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y dyn yn beicio ar hyd Ffordd Rhosberse i gyfeiriad Melin y Nant ar feic mynydd lliw arian, i gysylltu â swyddogion yn Uned Plismona’r Ffyrdd.
Mae teulu’r unigolyn wedi’u hysbysu ac yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Cyswllt Teuluol.
Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a allai fod ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â PC 450 Jackson neu Arolygydd Dros Dro 1633 Davies yn Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 (os yng Nghymru) neu 0845 607 1001 (Llinell Gymraeg) 0845 607 1002.