Alun Cairns
 
Fe ddylai S4C roi’r gorau i gwyno am y modd y cafodd adroddiad hynod feirniadol ei ollwng i’r wasg, a chanolbwyntio ar gywiro’r diffygion lu gafodd eu hamlygu ynddo.

 Dyna ddywed yr Aelod Seneddol Alun Cairns, sy’n feirniadol iawn o Awdurdod S4C ers iddyn nhw ddiswyddo’r Prif Weithredwr Iona Jones fis Awst y llynedd.

Mae’r Sianel Gymraeg yn addo  cyhoeddi ymateb i’r adroddiad, ar ôl i Awdurdod S4C gael cyfle i’w drafod yn llawn.

 Daeth cynnwys adroddiad cyfrinachol gan Brifysgol Cymru ar drefn fewnol S4C i’r amlwg fis Gorffennaf.

 Mae adroddiadau’r wythnos hon bod y Sianel eisiau hawlio’n ôl yr arian wnaethon nhw dalu am y gwaith wnaethon nhw gomisiynu gan Brifysgol Cymru.

 Mae golwg360 ar ddeall bod yr adroddiad wedi costio £12,000, ac mae’r gweithiwr wnaeth ollwng yr adroddiad i’r wasg yn parhau wedi ei wahardd o’i waith ar ôl i S4C gwyno.

 “Yn fy marn i, fe ddylen nhw ganolbwyntio ar y gwendidau sydd wedi’u tanlinellu yn yr adroddiad yn lle bod rhyw fath o witch hunt ar ôl pwy sydd wedi gadael y peth allan,” meddai Alun Cairns AS wrth Golwg360.

 “Mae hwn yn dangos eu bod nhw’n obsesd â’r ffordd mae pobl yn eu gweld nhw, nid eu bod nhw eisiau cywiro’r ffordd anghywir mae’r Prif Weithredwr yn eu rhedeg ar hyn o bryd…mae jest cwyno am arian yr adroddiad yn tanseilio holl bwynt yr adroddiad a’r gwendidau mae wedi’i danlinellu.”

 Yn ôl Alun Cairns mae S4C yn defnyddio “tactegau dargyfeirio” trwy gwyno am y modd daeth yr adroddiad at sylw’r cyhoedd, yn hytrach na thrafod ei gynnwys.

“Dw i’n siŵr taw eu holl bwynt o gwyno am yr unigolyn yna yw tynnu sylw oddi ar gynnwys yr adroddiad,” meddai.

Ymateb S4C

Mi fydd Awdurdod S4C “yn cyhoeddi ei ymateb i’r adroddiad ar ôl i’r aelodau gael cyfle i’w drafod yn llawn,” yn ôl llefarydd.

 Roedd yn cadarnhau bod S4C wedi cwyno’n ffurfiol ac yn aros ers bron i ddeufis am ymateb gan Brifysgol Cymru.

“Ym mis Gorffennaf y danfonwyd llythyr o gŵyn, ac ers hynny rydym yn disgwyl ymateb y Brifysgol a chanlyniad eu hymchwiliad,” meddai’r llefarydd.

 Ond mae S4C yn cydweld ag Alun Cairns bod angen trafod argymhellion yr adroddiad.

 “Rydan ni hefyd yn cytuno mai cynnwys yr adroddiad sydd yn bwysig a bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi ei ymateb i’r adroddiad ar ôl i’r aelodau gael cyfle i’w drafod yn llawn,” meddai’r llefarydd.

 “Does yna ddim cyfarfod o’r Awdurdod wedi digwydd ers i’r adroddiad terfynol gael ei gyflwyno i S4C ddiwedd Gorffennaf,” ychwanegodd y llefarydd.

 Doedd S4C ddim yn fodlon cadarnhau faint oedd cost yr adroddiad i’r Sianel. Dywedodd y llefarydd wrth Golwg360 mai “mater cytundebol rhwng S4C a’r Brifysgol yw hyn.”

Nid oedd Prifysgol Cymru am ymateb.

Cefndir

Cafodd Prifysgol Cymru ei chomisiynu gan S4C i gynnal ymchwiliad i’r sianel. Cafodd gweithwyr a  chyfranogwyr S4C eu cyfweld gan Richie Turner, dirprwy gyfarwyddwr Academi Ryngwladol Prifysgol Cymru rhwng mis Mawrth ac Ebrill.

Daeth yr adroddiad hynod feirniadol o’r Sianel i ddwylo’r wasg. Mae un o weithwyr y Brifysgol wedi ei atal o’i waith ac maen nhw’n ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

“Mae Prifysgol Cymru wedi comisiynu ymchwiliad mewnol i’r mater hwn, ac mae aelod o staff wedi ei atal rhag gweithio hyd nes ceir canlyniad yr ymchwiliad,” meddai llefarydd ar y pryd.

Yn ôl adroddiad gan y BBC, mae S4C bellach wedi gwneud cwyn gyfreithiol yn erbyn Prifysgol Cymru. Maen nhw eisiau i’r arian gafodd ei dalu am yr adroddiad gael ei dalu yn ôl.

 Malan Vaughan Wilkinson