Rhys Priestland
Rhys Priestland fydd yn cychwyn yn safle’r maswr i Gymru yn eu gêm gynta’ yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn erbyn y pencampwyr presennol De Affrica.

Roedd dyfalu brwd ynghylch pwy fyddai’n gwysgo’r crys rhif 10 oherwydd anaf i’r hen ben Stephen Jones.

Mi ddywedodd cyn-chwaraewr Cymru Scott Gibbs mai James Hook ddylai chwarae yn safle’r maswr draw yn Wellington yn Seland Newydd fore Sul.

Ond mae Hook wedi ei ddewis yn safle’r cefnwr, a Rhys Priestland sydd yn safle’r maswr.

Dyma fydd pumed cap y chwaraewr 24 oed dros Gymru.

Ymysg y blaenwyr mae’r prop profiadol Adam Jones yn ei ôl, a Huw Bennett wedi ei ddewis yn safle’r bachwr.

“Rydym ni’n awyddus i ennill y gêm yma,” meddai hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

“Pan rydych chi’n gorfod wynebu Pencampwyr y Byd yn eich grŵp, mae’n well eu chwarae nhw gynta’ a thaflu popeth sydd ganddoch chi atyn nhw.

“Mae ganddo ni’r grŵp anodda’ yn y gystadleuaeth, ond rydan ni’n gwybod os y medrwn ni ddod drwyddi, mi fyddwn ni mewn siap da.

“Mae’r chwaraewyr wedi gwneud popeth rydan ni wedi ei ofyn hyd yma, maen nhw wedi gweithio’n galed iawn.”

Cymru: James Hook; George North; Jonathan Davies; Jamie Roberts; Shane Williams; Rhys Priestland; Mike Phillips; Paul James; Huw Bennett, Adam Jones, Luke Charteris, Alun Wyn Jones; Dan Lydiate; Sam Warburton (capten); Toby Faletau.

Eilyddion: Lloyd Burns; Ryan Bevington; Bradley Davies; Andy Powell; Tavis Knoyle; Scott Williams; Leigh Halfpenny.