Mae yna bryderon y gallai swyddfa’r Urdd yn Aberystwyth gau, am resymau ariannol.

Daeth i’r amlwg heddiw fod pwyllgor gwaith y mudiad yn ystyried ail leoli staff i naill ai Llangrannog neu Lan Llyn.

Bydd aelodau o Fwrdd Busnes yr Urdd yn cael ymateb i’r argymhelliad ac mae disgwyl penderfyniad erbyn diwedd y mis.

Mae saith o bobol yn cael eu cyflogi yn swyddfa Aberystwyth.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, wrth raglen Taro’r Post eu bod nhw’n “hyderus” na fydd unrhyw swyddi yn cael eu colli yn sgil yr ail-leoli.

“Y cefndir yw, ein bod ni fel pob elusen ar hyn o bryd yn gorfod edrych ar ein cyllidebau ni yn ofalus,” meddai.

“Dyw grantiau o’r sector gyhoeddus ddim wedi  cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae pawb yn ymwybodol o’r toriadau sy’n ein hwynebu ni.

“Felly rydyn ni wedi trio bod yn gyfrifol drwy edrych ar ein holl gostau ni ac mae hyn yn wir ar draws y mudiad i gyd, ac wedi penderfynu trio blaenoriaethu ein gwasanaethau i’n haelodau ni sef ein darpariaeth ni yn y gwersylloedd, ein gweithgareddau cymunedol a’r Eisteddfod.

“Fel rhan o hynny, r’yn ni nawr yn gwneud yr argymhelliad bod y staff sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn ein swyddfa  ni yn Aberystwyth yn cael eu hail leoli i Langrannog neu Glan llyn.”

Mae’r swyddi yn Aberystwyth yn rhai “gweinyddol, cyfathrebu, aelodaeth yr urdd ac adran technoleg gwybodaeth”, meddai.

“O gymryd y penderfyniad yma, r’yn ni’n hyderu na fydd unrhyw swydd yn cael ei golli. Mae’n flaenoriaeth gyda ni i ddiogelu swyddi a thrwy hynny gwasanaethu aelodau yn hytrach na gwariant ar adnoddau cyfalaf.”