Ieuan Wyn Jones
Yfory mi fydd yn Ieuan Wyn Jones yn traddodi ei araith olaf fel yr Arweinydd Plaid Cymru, ac mae’n dweud  y bydd hi’n awgrymu’r ffordd ymlaen i’w blaid.

Mae wedi mwynhau degawd wrth y llyw yn arwain Plaid Cymru, ac mae’n addo brolio ei waddol gwleidyddol yn ei araith yfory.

“Lle dw i fel arfer mewn araith cynhadledd yn edrych ar y flwyddyn wleidyddol sydd wedi bod ac yn edrych ymlaen i’r flwyddyn sydd o’n blaenau ni, mi fydd yr araith yn edrych yn ôl ar y cyfnod dw i wedi bod yn arweinydd ac yn cynnig rhyw ychydig o negeseuon ynglŷn â lle’r ydan ni isio mynd i’r dyfodol.

“Un o’r pethau fydda i yn dweud ydi bod fi yn teimlo bod yna lawer iawn wedi cael ei gyflawni yn y cyfnod dwytha’ yma, yn arbenning wrth gwrs a ninnau wedi bod yn rhan o lywodraeth Cymru’n Un a’r holl bethau ddigwyddodd o dan y llywodraeth honno, gan gynnwys y refferendwm a bod fi’n teimlo bod fi’n gadael gwaddol i’r blaid ac yn sail cadarn ar gyfer y dyfodol.”

Dydy o ddim yn cytuno efo sylwadau diweddar Rhodri Glyn Thomas nad ydy’r Blaid wedi symud ymlaen ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu.

“Dw i’n teimlo bod y Blaid wedi symud ymlaen yn sylweddol iawn ac wrth gwrs mi’r oedd Rhodri ei hun yn rhan o hwnna yn mynd i lywodraeth yn 2007. Dw i’n meddwl fod hynny wedi trawsnewid y ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu ac fe allwn ni edrych yn ôl dros gyfnod Cymru’n Un a gweld mai dyna ydi’r llywodraeth orau ddaru Cymru gael.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg , 8 Medi