Adam Price
Mae Adam Price wedi dweud y bydd yn cefnogi’r arweinydd newydd at etholiad 2016 a thu hwnt.

Bydd ei sylwadau yn rhoi taw ar y dyfalu a fydd yn cynnig am fod yn arweinydd Plaid Cymru ei hun.

“Fe gefnoga’ i mewn pa bynnag rôl y galla’ i – gan gynnwys fel ymgeisydd os ydy hynny yn dod i’m rhan,” meddai.

Mae ei golofn yn dod i ben gyda’r geiriau, “Mi fydda’ i felly, fel un o fyddin o is-gapteiniaid, yn cefnogi’r Arweinydd newydd–– drwodd at a thu hwnt i Etholiad 2016. Pwy bynnag yw hi.”

Yn ôl Adam Price, mae’r cyfeiriad at ‘hi’ yn fwriadol gellweirus, “ond dw i ddim yn meddwl y byddai’n beth gwael o gwbl i’r Blaid gael menyw fel Arweinydd (yn ogystal â Llywydd) am y tro cyntaf.”

Darllenwch golofn Adam Price yng nghylchgrawn Golwg, 8 Medi