Pontardawe
Mae cofeb i un o feirdd amlycaf Cymru wedi cael ei symud o ganol ei bentre genedigol.

Mae trigolion Pontardawe yn galw am adfer Ffynnon Goffa Gwenallt sydd wedi’i symud yn ystod gwaith adfywio’r dref.

“Rydyn ni’n bryderus iawn bod y ffynnon wedi ei thynnu i lawr – a neb yn ymwybodol o hynny.” meddai Sioned Williams, adolygydd a beirniad celf sy’n byw yn lleol.

“Mae cofnodi pwysigrwydd llenorion a ffigyrau amlwg yn rhywbeth sydd angen ei wneud – r’yn ni’n grac iawn bod y ffynnon wedi ei dymchwel.”

Yn ogystal a choffau’r bardd Gwenallt mae’r gofeb yn gofeb i’r Athro TJ Morgan a Tom Ellis Lewis.

“Wnaeth neb holi am farn y trigolion lleol am hyn, a doedd dim un ohonon ni wedi rhagweld y bydden nhw’n cael gwared ohoni wrth wneud y gwaith o wella canol y dref.”

Mae nifer o drigolion Pontardawe wedi cysylltu â Chyngor-nedd Port Talbot a chynghorwyr lleol.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 8 Medi