Rhodri Talfan Davies
Mae dyfodol Canolfan y BBC ym Mryn Meirion ym Mangor yn hollol saff, yn ôl pennaeth newydd y Gorfforaeth yng Nghymru.

Er ei bod yn chwilio am arbedion ariannol o 20%, does gan BBC Cymru ddim bwriad cau’r ganolfan yn y gogledd orllewin.

Yr wythnos hon roedd Rhodri Talfan Davies yn dechrau ar ei waith yn Gyfarwyddwr BBC Cymru, ac yn datgelu wrth Golwg ei fod eisoes wedi bod i’r gogledd i roi taw ar y sibrydion fod y brif swyddfa yno mewn perygl ac y bydd gofyn i staff weithio o adref.

“Does yna ddim cynllun o gwbwl i gau’r Ganolfan ym Mangor,” meddai.

“Dw i’n meddwl ei bod yn hollbwysig ein bod ni’n cynnal y Ganolfan bwysig hon a’i bod yn parhau i greu rhaglenni amrywiol mewn nifer helaeth o feysydd… mi fuodd yna lot o sôn a thrafod y sibrydion rhai misoedd yn ôl, ond dydan ni erioed o ddifrif wedi ystyried cau Bangor, mi fyddai’n beth ffôl iawn i’w wneud.”

Dallenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 8 Medi