DTH Van Der Merwe (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yfory, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Mae sawl chwaraewr barfog, Chabal-aidd yn sgwad Canada ac fe fyddwn nhw’n gobeithio ail greu llwyddiant Cwpanau Rygbi’r Byd 1991 a 1995…

O blith yr wyth tîm oedd yn gorfod chwarae gemau cymhwyso i gystadlu yn y rowndiau terfynol yn Seland Newydd, Canada oedd y cyntaf i sicrhau ei lle.

Maeddodd yr Unol Daleithiau ddwywaith ym mis Awst, 17-7 gartref a 22-18 oddi cartref, cyn colli 14-38 yn erbyn ail dîm Awstralia.

Mae yn y 14eg safle yn rhestr IRB, rhwng Ffiji a Japan.

Safle tebygol: Ennill un gêm yn y grŵp

Record

Bu Canada yn cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers y dechrau. Dim ond un waith y mae hi wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf a hynny yn 1991 pan gollodd yn erbyn Ffrainc.

Yn 2007, am y tro cyntaf yn ei hanes yng Nghwpan y Byd, dychwelodd adref heb ennill un gêm.

Chwaraewr i’w wylio

DTH Van Der Merwe

Canolwr, cefnwr neu asgellwr pwerus 25 oed sy’n chwarae i Glasgow ers 2009. Cafodd ei eni yn Ne Affrica ond symudodd ei deulu i Ganada naw mlynedd yn ôl.

Bu ar daith â Chanada i Gymru yn 2006 a’r flwyddyn wedyn chwaraeodd ym mhob un o gêmau Canada yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. Bu’n cynrychioli ei wlad ers chwe blynedd.

Yr Hyfforddwr

Kieran Crowley

Cafodd Kieran Crowley ei benodi yn 2008. Mae’n gyn-gefnwr i’r Crysau Duon a enillodd 19 cap ers ei ymddangosiad cyntaf yn 1987.

O 1998 i 2007 bu’n hyfforddi tîm taleithiol Taranaki ac yn 2007 ef oedd hyfforddwr tîm o dan 19 Seland Newydd pan enillon nhw Bencampwriaeth y Byd.

Roedd yn un o ddewiswyr y Crysau Duon 2002-03.

A wyddoch chi?

Gareth Rees, maswr a chefnwr i Ganada a chwaraeodd mewn pedwar Cwpan Byd rhwng 1987 ac 1997, oedd athro hanes a rygbi y Tywysog William yn Eton. Bu ei dad, Alan, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghymru, yn chwarae pêldroed i glwb Dinas Caerdydd.

Bu’n rhaid i dimau rygbi yng Nghanada gefnu ar yr Undeb gwreiddiol a sefydlwyd yn 1884 i hybu’r gêm yno oherwydd iddo ddechrau caniatáu rheolau newydd, fel taflu’r bêl ymlaen.

Maes o law fe drodd y gêm honno i fod yn debycach i bêl-droed Americanaidd gan gymryd yr enw Canadian Football.