Eurfyl ap Gwilym
Mae’r dyn sy’n arwain y broses o adnewyddu Plaid Cymru yn y dyfodol wedi dweud y bydd eu cynhadledd dros y penwythnos yn gyfle gwych i glywed barn aelodau llawer gwlad.

Yn dilyn canlyniadau siomedig yn yr etholiad ym mis Mai, cyhoeddwyd y buasai’r blaid yn cynnal “proses gynhwysfawr” i edrych ar bob agwedd ohoni.

Bydd y broses a elwir yn Symud Ymlaen: Adnewyddu’r Blaid i Gymru yn cymryd “cam arall ymlaen” wrth i aelodau’r blaid ymgasglu yn Llandudno ar gyfer eu cynhadledd flynyddol.

Mae Dr Eurfyl ap Gwilym yn arwain y tîm o chwech sy’n cynnal y broses hon , sef Jill Evans ASE, Elfyn Llwyd AS, Jocelyn Davies AC, Dr Dafydd Trystan, Llyr Huws Gruffydd AC.

Dywedodd y bydd y gynhadledd yn gyfle gwych i drafod â’r cannoedd o aelodau ar lawr gwlad fydd yn dod yno, ac i gael eu barn a’u syniadau am y modd y maent am i’r Blaid symud ymlaen.

“Bydd y gynhadledd hon yn chwarae rhan bwysig i ddatblygu ein plaid at y dyfodol,” meddai Dr Eurfyl ap Gwilym.

“Gyda’r gwaith eisoes wedi cychwyn, mae fy nghydweithwyr a minnau yn edrych ymlaen at benwythnos prysur a chynhyrchiol lle byddwn yn trafod ac yn rhannu syniadau gyda channoedd o aelodau ar lawr gwlad fydd yn dod yno dros y tridiau.

“Bydd yn un o nifer o gyfleoedd dros y misoedd i ddod i ymwneud â phobl yn y blaid a thu allan.

“Mae’r broses adnewyddu yn gyfle euraid, nid yn unig i sicrhau fod gan bobl Cymru o hyd blaid fydd yn hyrwyddo buddiannau ein cenedl, ond hefyd i adnewyddu ac adfywio ein plaid fel ein bod wedi ein harfogi  yn iawn ar gyfer yr her a’r cyfle sydd o’n blaenau.

“Wrth gwrs, fe fyddwn yn y cyfamser yn parhau i ganolbwyntio ar ein gwaith o roi buddiannau Cymru a’n cymunedau yn gyntaf ar bob lefel o lywodraeth. Yn y Cynulliad, bydd Plaid Cymru yn chwarae ei rhan i sicrhau fod gan bobl Cymru wrthblaid adeiladol ac effeithiol i’w cynrychioli.

“Mae Symud Ymlaen: Adnewyddu’r Blaid i Gymru yn awr wedi mynd rhagddo, a’r disgwyl yw y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith wedi ei gwblhau ac wedyn yn cael ei weithredu o ddechrau’r flwyddyn newydd ymlaen.”