Mae Cadeirydd Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion wedi datgan ei “siom” wrth gael gwybod na fydd rhaid i’r gwasanaeth ddarlledu yn Gymraeg yn y dyfodol.

Fe fydd y drwydded ar gyfer radio yng Ngheredigion yn cael ei hysbysebu’n agored ym mhen y mis, cyhoeddwyd ddoe.

Cyhoeddodd Ofcom na fydd perchnogion gorsaf Radio Ceredigion yn gofyn am gael adnewyddu eu trwydded yn otomatig.

O ganlyniad, fe fydd hysbyseb yn ymddangos ar 5 Hydref yn gofyn am geisiadau ar gyfer cynnal y gwasanaeth ar gyfer 72,000 o wrandawyr yng ngorllewin Cymru.

Fe fydd gan ymgeiswyr dri mis i ymateb, ond fydd yna ddim cyfyngiadau o ran iaith y gwasanaeth yn y dyfodol.

Fe fydd yn gystadleuaeth agored gyda’r ymgeiswyr yn dewis polisi rhaglenni ac iaith.

“Dw i’n siomedig i glywed na fydd yna amodau ieithyddol ynghlwm wrth y drwydded newydd,” meddai Geraint Davies, Cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion wrth Golwg360.

“Mae Radio Ceredigion yn gwasanaethu un o’r ardaloedd mwyaf Cymreig yng Nghymru. Yn sicr, rhaglenni Cymreig oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant ac apêl y gwasanaeth hyd nes y gwerthwyd yr orsaf i gwmni Town and Country Broadcasting ym mis  Ebrill 2010.”

“Mae pawb yn cydnabod bod ’na ddigon o ddewis ar gael drwy gyfrwng y Saesneg, ond cyfyng iawn yw’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg,” meddai.

‘Radio Beca’

Mae Cyfeillion Radio Ceredigion yn rhan o gais i sefydlu Radio Beca, gwasanaethau cymunedol dwyieithog fydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn bennaf. Mae’r cais eisoes wedi ei gyflwyno i Ofcom.

“Y gwir plaen yw bod Ceredigion a’r cyffiniau yn unigryw ac yn teilyngu gwasanaeth radio sydd yn hollol ddwyieithog ac yn darparu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai Geraint Davies.

Dywedodd y bydd yn aros nes bod hysbyseb ar gyfer cynnal y gwasanaeth radio ar gyfer  Ceredigion yn ymddangos ar 5 Hydref cyn ystyried y ffordd ymlaen.