David Pocock (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Awstralia yw un o’r ffefrynnau i ennill Cwpan Webb Ellis eleni – ac fe allen nhw wynebu’r Crysau Duon yn y rownd derfynol…

Bu’n cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers y gystadleuaeth gyntaf yn 1987 gan gael lle awtomatig yn y rowndiau terfynol bob tro.

Enillodd Awstralia bencampwriaeth y Tair Gwlad eleni, ond roedd De Affrica a Seland Newydd wedi gorffwyso rhai chwaraewyr yn eu herbyn.

Mae’n ail ar restr IRB ar hyn o bryd, a’r ffefryn ymysg nifer i fynd â hi eleni.

Safle tebygol: Y ffeinal

Record

Enillodd Awstralia Gwpan Webb Ellis ddwy waith, yn 1991 ac 1999. Cyrhaeddodd y rownd derfynol hefyd yn 2003 gan golli i Lloegr 20-17 ar ôl chwarae amser ychwanegol.

Yn wir, bu’r Saeson yn dipyn o fwgan iddi dros y blynyddoedd gan iddi golli iddyn nhw hefyd ddwy waith yn rownd yr wyth olaf, yn 1995 a 2007.

Ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth collodd i Ffrainc yn y rownd gynderfynol, ac yna i Gymru yn y gêm i benderfynu pwy fyddai’n gorffen yn y trydydd safle.

Chwaraewr i’w wylio

David Pocock

Mae’n frodor o Zimbabwe a symudodd i Awstralia yn 2002, pan oedd yn 14 oed. Disodlodd yr enwog George Smith yn rheng ôl y Wallabies yn 2009.

Mae ei gyflymder, a’i nerth yn ardal y dacl, bellach yn golygu ei fod yn un o’r blaenasgellwyr gorau ar y lefel ryngwladol.

Chwaraeodd i dîm bechgyn ysgol Awstralia ac ef oedd capten tîm Awstralia dan 20 oed ym Mhencampwriaeth Iau y Byd yn 2008.

Yr Hyfforddwr

Robbie Deans

Mae Robbie Deans yn frodor o Canterbury, Seland Newydd a chwaraeodd i’r Crysau Duon.

Bu’n hyfforddwr cynorthwyol gyda thîm Seland Newydd rhwng 2001 a 2003 ond gwnaeth ei enw ar y lefel daleithiol.

Mewn gyrfa a barodd am 11 mlynedd gyda’r Crusaders, ef yw’r hyfforddwr mwyaf llwyddiannus erioed yn hanes y Super League.

Cafodd ei benodi’n hyfforddwr y Wallabies yn 2007.

A wyddoch chi?

Yn Stadiwm ANZ Sydney, yn 2000, ar gyfer gornest rhwng Awstralia a Seland Newydd y cafwyd y dorf fwyaf erioed mewn gêm rygbi.

Daeth 109,874 o bobl ynghyd mewn gêm a ddisgrifiwyd fel yr un orau erioed, gyda’r Crysau Duon yn ennill 39-35.

Wrth guro Namibia 142-0 yng nghystadleuaeth 2003 sgoriodd Awstralia 22 cais, y nifer fwyaf erioed o geisiau a sgoriwyd mewn un gêm yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Yn ystod taith i Brydain yn 1908 y cafodd tîm Awstralia y llysenw ‘The Wallabies’ am y tro cyntaf. Awgrymwyd ‘Y Cwningod’ fel llysenw posib i ddechrau ond cafodd ei wrthod gan nad oedd yr anifail hwnnw, yn wahanol i’r walabi, yn anifail cynhenid i Awstralia.