Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau heddiw nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i ddatganoli rhagor o rymoedd dros ynni i’r Cynulliad.

Roedd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards wedi galw am ddatganoli’r grym mewn dadl arbennig yn Neuadd San Steffan, heddiw.

Ond wrth siarad yn dilyn y drafodaeth, dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, David Jones, nad oedd “unrhyw dystiolaeth o blaid newid”.

“Mae datblygwyr prosiectau ynni newydd yng Nghymru eisiau proses syml o wneud penderfyniadau y maen nhw’n gallu dibynnu arno,” meddai.

“Mae’r system bresennol yn darparu hynny.

“Rydyn ni wrth gwrs eisiau i farn cymunedau lleol gael eu clywed wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig rhai sydd yn ymwneud â ffermydd gwynt.

“Mae’r system bresennol yn gwneud hynny ac rydyn ni eisoes yn gwrando ar farn Llywodraeth Cymru ar ffermydd gwynt cyn dod i benderfyniadau.”

Dywedodd y Gweinidog Egni a Newid Hinsawdd, Charles Hendry, mai eu polisi nhw  oedd mai Llywodraeth San Steffan ddylai gael yr hawl i wneud penderfyniadau ynglŷn â phrosiectau ynni mawr yng Nghymru.

“Rydyn ni’n credu fod angen system gynllunio unedig yng Nghymru a Lloegr er mwyn gwneud y broses o gael caniatâd cynllunio yn haws ei ddeall a sicrhau nad oes yna oedi heb eisiau,” meddai.

“Rydw i’n croesawu’r ddadl heddiw ond yn gobeithio fod barn y Llywodraeth yn gwbl eglur – ni fydd yna unrhyw newid i’r broses gyfredol.”

Wrth ymateb i’r penderfyniad dywedodd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y dylai Cymru gael yr un grym a’r Alban.

“Mae gan y Cynulliad eisoes y grym i ganiatáu canolfannau cynhyrchu trydan hyd at 50 Megawat,” meddai.

“Fe fyddai yn gwneud synnwyr i ymestyn hynny fel bod gan Gymru reolaeth lwyr dros ei hadnoddau ei hun, fel yr Alban.

“Yn yr etholiad ym mis Mai roedd y Ceidwadwyr, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am ddatganoli rhagor o rymoedd dros ynni.

“Naill ai roedd y rheini yn addewidion gwag, neu does gan Aelodau Cynulliad y pleidiau rheini ddim dylanwad dros eu meistri yn Llundain.”