Brian O'Driscoll (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Mae Iwerddon wedi bod ymysg y timoedd cryfaf yn hemisffer y gogledd ers bron i ddegawd ond dydyn nhw erioed wedi cael llwyddiant yng Nghwpan Rygbi’r Byd. A fydd hynny’n newid eleni?

Cafodd Iwerddon le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011. Ond mae ei chanlyniadau yn arwain at y gystadleuaeth wedi bod yn gymysg iawn.

Dim ond o drwch blewyn y llwyddodd hi i gael y gorau o’r Eidal a’r Alban yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad, a cholli yn erbyn Cymru a Ffrainc, ond cafodd fuddugoliaeth gyffrous yn erbyn Lloegr.

Mae gemau paratoadol Iwerddon ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd wedi bod yn drychinebus i’r tîm. Maen nhw wedi colli pedair gêm yn olynol yn erbyn yr Alban, Ffrainc a Lloegr.

O ganlyniad i hynny mae’r tîm wedi llithro i’r wythfed safle yn rhestr yr IRB, eu safle isaf erioed.

Safle tebygol: Rownd yr wyth olaf

Y Record

Cyrhaeddodd Iwerddon rowndiau terfynol Cwpan y Byd bob tro ers 1987. Aeth mor bell â rownd yr wyth olaf bedair gwaith.

Yn 1999 collodd mewn gêm gymhwyso ar gyfer rownd y chwarteri ac yn 2007 aeth hi ddim ymhellach na’r gêmau rhagbrofol, wedi iddi golli dwy ac ennill dwy.

Chwaraewr i’w wylio

Brian O’Driscoll

Bu’n chwaraewr pêl-droed Gwyddelig brwd pan oedd yn ifanc, cyn troi at rygbi. Aeth 11 mlynedd heibio ers iddo ennill ei gap cyntaf dros ei wlad, ond mae’n dal i fod yn un o ganolwyr gorau’r byd.

Sgoriodd fwy o geisiau i Iwerddon nag unrhyw un arall ac mae wedi chwarae dros gant o weithiau yn y crys gwyrdd, rhagor nag unrhyw Wyddel arall.

Cafodd ei ddewis yn Chwaraewr Gorau Cystadleuaeth y Chwe Gwlad dair gwaith rhwng 2006 a 2009 a’r llynedd cafodd ei enwi gan y cylchgrawn Rugby World yn chwaraewr rygbi gorau’r degawd diwethaf.

Mae’n gapten ar ei wlad ac yn gyn-gapten y Llewod`.

Yr Hyfforddwr

Declan Kidney

Bu’r cyn-athro Mathemateg, Declan Kidney, yn hyfforddi tîm Iwerddon ers haf 2008 a chipiwyd y Gamp Lawn ganddi yn 2009 yn ei flwyddyn gyntaf wrth y llyw.

Mae ganddo record gampus fel hyfforddwr, gan arwain tîm Iwerddon dan 19 i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn 1998.

Yn 2005 a 2008 ef oedd hyfforddwr Munster pan enillon nhw Gwpan Heineken. Yn 2009 cafodd ei ddewis yn Hyfforddwr Gorau’r Flwyddyn gan yr IRB.

A wyddoch chi?

Yn achlysurol, ers rhai blynyddoedd, bu Gwasanaeth Post Iwerddon yn argraffu stampiau gyda lluniau rhai o chwaraewyr rygbi’r wlad arnyn nhw.

Y diweddaraf i gael yr anrhydedd honno ychydig flynyddoedd yn ôl oedd Paul O’Connell. Mae ei lun i’w weld ar stampiau 78 cent a 55 cent.

Yn ôl rhai, mae gwreiddiau rygbi (a phêl-droed Gwyddelig) yn Iwerddon i’w cael mewn gêm Wyddelig hynafol o’r enw caid. Un nod yn y gêm honno fyddai cael tîm o ddynion i gario pêl feddal dros ffiniau cyfagos plwyf y tîm arall, a fyddai’n ceisio cyflawni’r un gamp.