Mae merch 15 oed wedi dioddef anaf difrifol i asgwrn ei chefn wrth ddisgyn o geffyl.

Roedd y ferch o orllewin canolbarth Lloegr, sydd heb ei henwi, ar wyliau yng ngwersyll Presthaven pan ddigwyddodd y ddamwain ar draeth Talacre yn Sir y Fflint ddoe.

Cafodd ambiwlans awyr ei alw i fynd a hi i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan. Does dim gwybodaeth eto ynglŷn â’i chyflwr.

Cafodd gwylwyr y glannau eu galw o’r Rhyl a Fflint i fan y ddamwain am 2.30pm.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Rhyl fod y ferch wedi disgyn ymysg twyni tywod ar y traeth.

“Roedd hi wedi dioddef o anafiadau difrifol i’w asgwrn cefn,” meddai.

“Death y parafeddygon o hyd iddi ond roedd yn amlwg bryd hynny mai’r unig fodd saff o’i chael hi oddi yno oedd ar hofrennydd.”