Callum Mackay
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff yn y môr yn agos at y fan lle y diflannodd dyn 22 oed yr wythnos diwethaf.

Roedd Callum Mackay o Lanfairpwll yn pysgota gyda’i ffrindiau ym Mhorth Trecastell, ger Rhosneigr, ddydd Mercher cyn mynd i mewn i’r môr.

Ceisiodd ei gyfaill Lewis Darroch, 22, ei achub ond fe aeth i drafferthion hefyd. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond fe fu farw.

Mae Gwylwyr y Glannau, hofrennydd y Llu Awyr Brenhinol, Sefydliad y Badau Achub Brenhinol, a Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn chwilio am Callum Mackay.

Daeth yr ymgais i ddod o hyd iddo i ben ddydd Iau ond derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad ddoe yn dweud fod corff i’w weld mewn rhigol ger y fan lle y diflannodd Callum Mackay.

Mae’r heddlu wedi adfer y corff ond heb ei adnabod eto. Mae disgwyl y bydd archwiliad post-mortem yn digwydd heddiw.