Pencadlys Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru yn galw am wybodaeth yn dilyn tair byrgleriaeth yn ardal Trelluest, Caerdydd.

Fe ddigwyddodd y byrgleriaethau yng Ngerddi Merches, Stryd Mardy a Stryd y Ddinas, dros nos rhwng dydd Sul, 28 Awst  a Dydd Llun 29 Awst.

Cafodd setiau teledu eu dwyn o gartrefi yng Ngerddi Merches a Stryd Mardy, ac fe gafodd set o berlau hufen gwyn a chwaraewr DVD eu dwyn o’r cyfeiriad yn Stryd y Ddinas.

Ym mhob achos roedd y lleidr neu’r lladron wedi dod i mewn drwy’r cefn gan falu neu orfodi ffenestri’n agored.

Dywedodd yr Heddlu nad ydyn nhw eisiau codi ofn ar bobl leol ond eu bod yn “teimlo ei bod yn bwysig eu bod yn ymwybodol ac yn diogelu eu cartrefi gyda’r nos”.

“Rydyn ni’n cynnal ymchwiliad llawn ac mae’r ymholiadau’n parhau.”

Mae’r heddlu’n credu fod y troseddau yn gysylltiedig, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 02920 527 420 neu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.