Gweithwyr ambiwlans sydd fwyaf tebygol o fod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, yn ôl ystadegau newydd.

Mae ffigyrau chwarterol newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn dangos fod cyfradd salwch cyffredinol pobol sy’n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus wedi syrthio ychydig ers y llynedd.

O’r saith Bwrdd Iechyd Lleol a’r tair Ymddiriedolaeth Iechyd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oedd â’r raddfa uchaf o absenoldeb oherwydd salwch (7.2%), ac Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd â’r isaf (3.4%).

Y Bwrdd Iechyd â’r raddfa uchaf o absenoldeb oherwydd salwch oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (5.3%).

Ym mis Ebrill datgelodd Cais Rhyddid Gwybodaeth fod gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi colli 5.3 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd oherwydd salwch.

“Rhaid i gyrff o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sicrhau fod ganddyn nhw’r gweithwyr a’r sgiliau er mwyn ateb y galw,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dargedau er mwyn gostwng nifer yr absenoldebau o ganlyniad i salwch.

“Rydyn ni’n croesawu fod nifer yr absenoldebau wedi disgyn yn gyffredinol, ond mae’n parhau yn her allweddol y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

“Mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – fel pawb arall – yn mynd yn sâl a dro i dro, a pan mae hynny’n digwydd mae’n bwysig nad ydyn nhw’n gweithio rhag ofn iddyn nhw ledu’r germau ymysg eu cydweithwyr a’u cleifion.

“O ystyried fod gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio yn agos â chleifion drwy’r amser mae’n ddealladwy eu bod nhw’n mynd yn sâl o dro i dro.”

‘Rhaid gwneud rhagor’

Yn ôl ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru roedd ymgyrch i fynd i’r afael â salwch yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi arbed mwy na £24 miliwn rhwng 2004 a 2008.

Serch hynny, yn 2009 rhybuddiodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod graddfa absenoldeb yn parhau’n rhy uchel, ac y dylai Llywodraeth Cymru osod targed o 4.2%.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, Darren Millar, yr hoffai weld ymchwiliad i pam fod lefelau salwch yn uwch ymysg gweithwyr ambiwlans.

“Mae’n bosib fod rheswm, ac mae’r gyfradd bresennol yn annerbyniol,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod nhw’n gweithio’n galed er mwyn cadw llygad ar iechyd eu staff.

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn gwella ei hamodau gwaith yn gyson, ac wedi bod yn mynd i’r afael â beth sy’n achosi absenoldeb yn y lle cyntaf, yn ogystal â rhoi rhagor o gefnogaeth i’r rheini sydd am ddychwelyd i’r gwaith,” meddai.

“Rydyn ni’n cadw llygad ar y rota sifftiau er mwyn sicrhau ein bod ni’n taro y cydbwysedd cywir rhwng gwaith a gorffwys.

“Mae lefelau salwch wedi lleihau ers y gaeaf pan oedd pwysau mawr ar ein gweithwyr, ond rydyn ni’n cydnabod fod gwaith i’w wneud eto.”