Darren Millar
Mae ffigyrau newydd yn dangos fod nifer yr eitemau ar bresgripsiwn y pen yng Nghymru yn uwch nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

Cynyddodd nifer yr eitemau ar bresgripsiwn gafodd eu dosbarthu gan Feddygon Teulu 3.3% – o 67.9 miliwn yn 2009-10 i 70.1 miliwn.

Roedd 23.2 eitemau ar bresgripsiwn wedi eu darparu fesul y pen yng Nghymru, o’i gymharu â 19.9 yng Ngogledd Iwerddon, 18.7 yn Lloegr a 17.6 yn yr Alban.

Costiodd yr eitemau ar bresgripsiwn £188 y pen, neu £594.33 miliwn i bawb yng Nghymru. Cafodd yr ystadegau eu cyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Ers 2007 mae meddyginiaeth ar bresgripsiwn wedi ei ddarparu i bobol o Gymru sydd wedi eu cofrestru â meddyg teulu o Gymru, am ddim.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ymroddedig i’r polisi, sydd o fudd i bawb yn y wlad, beth bynnag eu hincwm.

Ond mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud “nad oes modd cynnal” y system sy’n darparu eitemau ar bresgripsiwn am ddim i bobol Cymru.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, Darren Millar, fod y system yn “anfforddiadwy ac eithafol”.

“Mae miliynau yn cael ei wario ar bils ac elïau sydd ar gael am geiniogau mewn archfarchnadoedd.

“Ar yr un pryd mae cleifion canser yn mynd heb 20 o gyffuriau sydd ar gael i gleifion yn Lloegr.

“Fe ddylai’r rheini sy’n gallu fforddio i dalu am eu presgripsiynau wneud hynny.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr etholiad eleni wedi dangos fod pobol Cymru wedi gwrthod polisïau iechyd y Ceidwadwyr ac yn cefnogi presgripsiynau am ddim.

Cyffuriau canser

Ddoe cyhoeddodd elusen Sefydliad y Canserau Anghyffredin fod pobol yng Nghymru pum gwaith yn llai tebygol o dderbyn cyffur canser newydd na chleifion yn Lloegr.

Ond dywedodd Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, nad oedd angen gwario rhagor o arian ar driniaeth canser yng Nghymru.

“Rydyn ni eisoes yn gwario £5 y pen yn ragor ar driniaeth canser nag yn Lloegr,” meddai.

“Mae’n bwysig cofio fod cyffuriau newydd yn cael llawer o sylw ond maen nhw’n aml yn aneffeithiol a ddim yn achub bywydau.”