Aderyn-Drycin Manaw
Mae ymddiriedolaeth bywyd gwyllt yn bwriadu codi £250,000 er mwyn prynu goleudy a chlogwyn ar un o ynysoedd Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru eisoes yn berchen y rhan fwyaf o Ynys Sgoc-holm 2.5 milltir o arfordir Sir Benfro.

Maen nhw’n galw am roddion gan y cyhoedd fel eu bod nhw’n gallu prynu gweddill y warchodfa natur sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

Maen nhw hefyd eisiau ailwampio’r goleudy fel bod pobol sydd eisiau ymweld â’r ynys yn gallu aros yno.

Mae’r goleudy, gafodd ei adeiladu yn 1915, a’r tir o’i amgylch yn gartref i filoedd o Adar-Drycin Manaw.

Mae poblogaeth Adar-Drycin Manaw Ynys Sgoc-holm ac Ynys Skomer gerllaw yn cynrychioli tua hanner poblogaeth y byd.

“Mae’r goleudy a’r tir o’i amgylch yn bwysig iawn er mwyn gwarchod bywyd gwyllt ac felly mae’n naturiol ein bod ni eisiau eu prynu,” meddai’r Athro Lynda Warren o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Trinity House yw’r perchnogion presennol ac maen nhw wedi addo parhau i oleuo’r clogwyni ar ôl gwerthu.