Dinbych-y-pysgod
Aethpwyd a dynes i’r ysbyty ar ôl iddi ddisgyn 40 troedfedd o glogwyn ar draeth yn Sir Benfro.

Dywedodd gwylwyr y glannau fod y ferch 18 oed wedi dioddef anafiadau i’w phen a’i chefn ar ôl colli gafael ar gerrig rhydd.

Disgynnodd o glogwyn yn Ninbych-y-pysgod. Fe aeth merch arall i’w hachub a bu’n rhaid iddi gael triniaeth am anafiadau i’w braich.

Anfonodd gwylwyr y glannau Hwlffordd ddau fad achub ar ôl derbyn galwad toc cyn 8pm ddoe.

Aethpwyd a’r ddynes mewn ambiwlans i Ysbyty Withybush, Hwlffordd.