HSS Stena Explorer
Mae cwmni Stena Line wedi cyhoeddi na fydd eu gwasanaeth cyflym o Gaergybi i Ddulyn yn weithredol o fis nesaf ymlaen.
Cyhoeddodd y cwmni na fydd y fferi gyflym, HSS Stena Explorer, yn teithio o Gymru i Iwerddon ac yn ôl o 13 Medi. Fe fydd yn ail ddechrau teithio yn ystod yr haf y flwyddyn nesaf.
Mae disgwyl y bydd 88 o weithwyr ar y gwasanaeth cyflym yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad.
Bydd y cwmni yn dechrau cyfnod 30 diwrnod o ymgynghori ag undebau llafur Siptu, RMT a Nautilus yfory.
Dywedodd llefarydd ar ran Stena y bydd gweithwyr yn cael cynnig colli eu swyddi’r wirfoddol neu geisio dod o hyd i swydd newydd o fewn y cwmni.
Dywedodd Michael McGrath, cyfarwyddwr gwasanaethau Stena Line ar Fôr Iwerddon, fod cost y gwasanaeth cyflym yn rhy uchel a bod yn rhaid torri’n ôl.
“Mae’r gwasanaeth cyflym rhwng Dun Laoghaire a Chaergybi wedi gwneud colled ers blynyddoedd,” meddai.
“Mae cost gweithredu’r HSS Stena Explorer, yn enwedig cost tanwydd a chynnal a chadw’r trybini, yn uchel.
“Er gwaethaf ein hymdrechion i leihau costau dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi methu a gwneud elw.”
Ychwanegodd y bydd gwasanaeth cyflym y HSS Stena Explorer yn cael ei gynnal yn ystod yr haf yn unig o hyn ymlaen.
Fe fyddwn nhw’n parhau i gynnal dwy fferi arall rhwng Dulyn a Chaergybi drwy gydol y flwyddyn.
“Mae’r rhan fwyaf o’r incwm ar y gwasanaeth cyflym yn dod gan bobol sydd am fynd a cheir a bysiau i Iwerddon yn ystod yr haf,” meddai Michael McGrath.
“Mae’n biti ein bod ni wedi gorfod dod i’r penderfyniad yma ac fe fydd yn cael effaith ar ein gweithwyr ar y llong ac yn y porthladdoedd, ond roedd yn benderfyniad yr oedd yn rhaid ei gymryd.”
Y llynedd roedd bron i dri chwarter o fusnes Stena ar y gwasanaeth rhwng mis Mai a mis Medi, meddai’r cwmni.
Ychydig iawn oedd yn penderfynu teithio ar y gwasanaeth cyflym yn ystod y gaeaf, meddai.