Ffiji yn cyrraedd Cwpan Rygbi'r Byd
Mae’n dangos cyn lleied sy’n newid ym myd rygbi dros y blynyddoedd fod rhagflas o Gwpan Rygbi’r Byd yr ysgrifennais i ddwy flynedd yn ôl yr un mor berthnasol heddiw.

Ond os ydyn ni’n edrych ar batrwm pob gornest ers ’87, fe allen ni ddisgwyl i’r canlynol ddigwydd dros y misoedd nesaf:

Bydd Cymru yn colli yn erbyn Samoa  a/neu Ffiji – Mae’r ffaith bod y ddau yn yr un grŵp a Chymru yn brawf bod Duw yn hoffi tynnu coes. Collodd Cymru yn erbyn Gorllewin Samoa 13 – 16 yng Nghwpan y Byd 1991, 31-38 yn erbyn Samoa yn ei gyfanrwydd yn 1999, ac yna 38-34 yn erbyn Ffiji yn 2007. Dim ond o drwch blewyn y maeddon ni Tonga yn 2003, hefyd. Ychwanegwch at hynny fod Ffiji a Samoa yn chwarae ar eu tiriogaeth eu hunain, i bob pwrpas, a bod Samoa wedi maeddu Awstralia 32-23 oddi cartref ym mis Gorffennaf, ac mae pethau’n edrych yn ddu yng ngrŵp D.

Yr unig gysur ydi fod gemau Cymru yn erbyn Ffiji a Samoa yn cael eu chwarae am 3.30am a 5am felly mae’n anhebygol y bydd unrhyw un yn effro i’w gweld nhw.

Bydd Ffrainc yn wych un diwrnod ond yn ofnadwy’r nesaf – Pethau digon hawdd eu dyfalu yw gemau Cwpan Rygbi’r Byd fel arfer ond yr un tîm sy’n gwneud pethau’n anoddach eu darogan yw Ffrainc. Maen nhw, yn bron i bob twrnamaint erbyn hyn, wedi cael un fuddugoliaeth hynod ac wedyn un gêm ofnadwy o wael yn syth wedyn (yn erbyn Lloegr gan amlaf).

E.e. Maeddu Awstralia  30 – 24 yn 1987 cyn colli 29 – 9 yn erbyn Seland Newydd. Maeddu Seland Newydd 43 – 31 yn 1999 cyn colli 35 – 12 yn erbyn Awstralia. Maeddu Seland Newydd 20-18 yn 2007 cyn colli 14-9 yn erbyn Lloegr.

Bydd Lloegr yn mynd yn bell er nad ydyn nhw’n dîm cystal â hynny – Mae hanes yn awgrymu fod rygbi ceidwadol, gan gadw’r bêl ymysg y blaenwyr a chicio’r pwyntiau, yn tueddu i fynd a thimoedd ymhell yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Lloegr a De Affrica sy’n tueddu i arbenigo yn y steil hwnnw. Mae gan Loegr grŵp eithaf hawdd eleni ac yn debygol o wynebu Ffrainc yn rownd yr wyth olaf ac Awstralia yn rownd y pedwar olaf, timoedd y maen nhw’n hen lawiau ar eu maeddu yn y bencampwriaeth yma (Ffrainc yn 1991, 2003 a 2007, Awstralia yn 1995, 2003, 2007) felly dyw hi ddim yn annhebygol y byddwn nhw’n cyrraedd y rownd derfynol unwaith eto eleni,

Bydd Seland Newydd yn gwneud cawlach o bethau – Mae’r bencampwriaeth yma wedi ei lunio er mwyn sicrhau fod Seland Newydd yn ennill Cwpan Rygbi’r Byd. Mae bron i bob un o’u gemau yn cael eu chwarae yn Eden Park – stadiwm lle nad ydyn nhw wedi colli yno ers 1994. Ond mae’n anochel y byddwn nhw’n gwneud smonach o bethau eto eleni. Dw i’n eu gweld nhw’n cael eu maeddu gan De Affrica yn rownd y pedwar olaf, neu gan Awstralia yn y ffeinal os ydyn nhw’n mynd heibio i Loegr.

Beth sy’n debygol o ddigwydd:

Enillydd Grŵp C — Awstralia

Ail yn Grŵp D – Samoa ———– Awstralia

Enillydd Grŵp B – Lloegr ——–  Lloegr ——————— Lloegr

Ail yn Grŵp A — Ffrainc

———————————————————————————–De Affrica

Enillydd Grŵp D – De Affrica

Ail yn Grŵp C – Iwerddon ——————- De Affrica ————- De Affrica

Ennillydd Grŵp A —  Seland Newydd —— Seland Newydd

Ail yn Grŵp B – yr Ariannin

Beth licen i ei weld yn digwydd:

Enillydd Grŵp C — Iwerddon

Ail yn Grŵp D – De Affrica  ———Iwerddon

Enillydd Grŵp B – Yr Alban ——–  Seland Newydd ———–Seland Newydd

Ail yn Grŵp A – Seland Newydd

———————————————————————————–Cymru

Enillydd Grŵp D – Cymru

Ail yn Grŵp C – Awstralia ———– Cymru  ————- ———Cymru

Ennillydd Grŵp A —  Ffrainc ———Lloegr

Ail yn Grŵp B – Lloegr

Gyda llaw mae yna gynghrair ffantasi rygbi gan griw o Gymru Cymraeg ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei gynnal ar ESPN Sports – 1352 yw’r PIN os ydych chi am ymuno.