Jamie Bevan o flaen y llys
Mae ymgyrchydd iaith a dreuliodd gyfnod yn y carchar yr wythnos diwethaf ar ôl protest yn erbyn toriadau S4C wedi dweud fod ei gyfnod dan glo wedi ei “sbarduno ymlaen”.

Dywedodd Jamie Bevan, tad 35 mlwydd oed o Ferthyr Tudful, ei fod yn bwriadu cymryd rhan mewn rhagor o weithgaredd a “rhoi rhagor o bwysau ar y llywodraeth”.

Ef oedd yr ymgyrchydd cyntaf i gael ei garcharu dros ddyfodol darlledu Cymraeg ers bron i 30 mlynedd, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Cafodd ei garcharu ddydd Mawrth diwethaf a’i ryddhau ddydd Gwener – mewn pryd i gymryd rhan mewn protest arall dros doriadau S4C.

Torrodd Jamie Bevan i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad.

Roedd ei weithred yn rhan o ymgyrch y mudiad yn erbyn toriadau i gyllideb S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC.

“Roedd mynd i’r carchar yn brofiad holl newydd,” meddai Jamie Bevan wrth Golwg360.

“Ond roedd e’n fraint cael bod y person cyntaf mewn 30 mlynedd i’r carchar dros ddarlledu Cymraeg. Rydych chi’n cymryd nerth o’r ffaith bod chi’n iawn a ‘dw i dal yn credu fy mod i’n iawn yn yr hyn wnes i.

“Mae wedi rhoi hwb sylweddol i’r ymgyrch i warchod annibyniaeth ac arian S4C. Felly, pan oeddwn i yn y carchar, dyna beth oedd yn rhoi nerth i mi – y ffaith mod i yn iawn. Roeddwn i yno am resymau cyfiawn.”

Dywedodd ei fod wedi derbyn “cannoedd o negeseuon o gefnogaeth o Gymru a thu hwnt” ac wedi treulio’r penwythnos diwethaf yn eu darllen i gyd.

‘Byw mewn swigen’

Wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar ymunodd Jamie Bevan â’i gyd-aelodau mewn protest yn erbyn gweinidog diwylliant Prydain ddydd Gwener.

Targed y brotest oedd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, a dywedodd Jamie Bevan ei fod wedi ei weld “am beth yw e”.

“Mae e’n wleidydd slic iawn. Ond, dyw’r hyn ma fe’n ddweud a’r hyn y mae e’n ei wneud ddim yn cyd-fynd. Mae’n dweud ei fod wedi sicrhau dyfodol S4C ond dyw hynny ddim ond hyd at 2015.

“Mae e’n parhau yn anfodlon iawn i gwrdd lan a thrafod y mater gyda Chymdeithas neu unrhyw un,” meddai. Ond, dywedodd ei fod yn “parhau yn hyderus y bydd cyfaddawd ac y bydd trafodaeth ar y mater”.

“Bydd rhaid iddo drafod, mae’r dyn yn byw mewn swigen. Mae pawb arall yn gweld yr angen i drafod, hyd yn oed gwleidyddion yn ei blaid ei hun yn Llundain.

“Mater o amser yw e nes y mae’r cyfaddawd mawr yn dod. Mae Cymdeithas a’r holl fudiadau eraill nawr yn bwriadu parhau i bwyso arno.

“Bydd y pwysau’n cynyddu dros y misoedd nesaf.”

Er mwyn y plant

“I mi, mae’r peth darlledu yn rhan ehangach o’r holl frwydr ieithyddol. Sawl blwyddyn yn ôl, es i drwy addysg Gymraeg ond doedd fy nheulu i ddim yn siarad Cymraeg yn y tŷ,” meddai.

“Ond, ers chwe, saith blynedd, ry’n ni wedi newid hynny ac mae’r teulu i gyd yn siarad Cymraeg nawr,” meddai.

“Mae hynny wedi dod wrth i ni gyd gael plant ac eisiau byw bywyd Cymraeg a nawr rydw i moyn amddiffyn y bywyd yma a’r hunaniaeth.”