Y salon trin gwallt yng Nghasnewydd lle digwyddodd yr ymosodiad yr wythnos ddiwethaf (Gwifren PA)
Mae Comisiwn Cwynion yr Heddlu am ymchwilio i’r ffordd y bu Heddlu Gwent yn ymdrin â Darren Williams cyn iddo saethu ei gyn-wraig yng Nghasnewydd yr wythnos ddiwethaf.

Cafwyd hyd i’r dyn 45 oed wedi crogi mewn coedwig o fewn oriau i danio at Rachel Williams mewn salon gwallt. Cafodd dau o bobol eraill eu hanafu yn yr ymosodiad, gan gynnwys dynes 92 oed,.

Meddai llefarydd ar ran Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu: “Mae’r Comisiwn wedi penderfynu ymchwilio i gysylltiadau Heddlu Gwent â Darren Williams a’i deulu.

“Yn dilyn y digwyddiad saethu ar 19 Awst yn Ffordd Malpas, Casnewydd, fe wnaeth Heddlu Gwent gyfeirio’r mater at y Comisiwn.

“Fe fydd y Comisiwn yn edrych ar unrhyw gysylltiadau blaenorol rhwng yr heddlu a’r teulu Williams.”

Cefndir yr ymosodiad

Mae Heddlu Gwent yn dal i ymchwilio i sut y cafodd Darren Williams afael ar y gwn a oedd yn ei feddiant yn anghyfreithlon.

Roedd wedi cael ei garcharu am bedwar mis yn 2004 ar ôl i blismyn ddarganfod casgliad o arfau yn ei gartref yng Nghasnewydd.