Mae Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi wedi rhybuddio am beryglon y môr i bobl ifanc yn dilyn trychineb yr wythnos yma.

Fe fu farw un dyn a gafodd ei weld yn neidio o glogwyn ar Ynys Môn brynhawn Iau ac mae un arall yn dal ar goll. Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu fod y ddau yn byw yn lleol. Mae’r ymchwiliad yn parhau.

Er nad yw awdurdodau’n siŵr o union amgylchiadau’r digwyddiad, fe ddywedodd Barry Priddis o Wylwyr y Glannau Caergybi fod “neidio i’r dŵr o uchder wastad yn mynd i fod yn berygl”.

“Yn arbennig o amgylch yr arfordir pan dyw rhywun ddim yn gwybod beth sydd o dan yr wyneb,” meddai.

Dywedodd hefyd bod “uchder y llanw” yn bwysig i’w ystyried a “rhwystrau posibl o dan wyneb y dŵr.”

Oer

“Hyd yn oed amser hon o’r flwyddyn mae tymheredd y môr yn oer. Dydi hi ddim yn mynd mor gynnes â hynny o amgylch arfordir Prydain. Gall rhywun brofi sioc oer, os ydyn nhw’n boeth a’r dŵr yn oer – gallai hynny effeithio gallu rhywun i nofio,” meddai wrth sôn am beryglon plymio i’r dŵr.

“Y gair cyffredin am hyn yw tombstoning ac mae’n enw priodol iawn mae’n debyg, achos mae’n bosibl i hynny ddigwydd.

“Mae’n llawn peryglon – dydyn ni ddim yn annog pobl ifanc i wneud hyn o gwbl. Hogiau ifanc gan fwyaf sy’n tueddu i wneud y math yma o beth. Pan mae rhywun yn ifanc, maen nhw’n mynd i fyw am byth ac am newid y byd. Ond, dim ond os ti’n byw, mae hynny.

“Roedd y digwyddiad ddoe yn un trasig – ond dydyn ni ddim yn gwybod eto sut y gwnaethon nhw gyrraedd y dŵr,” meddai

Dywedodd nad oedd digwyddiadau fel hyn yn hynod gyffredin yn yr ardal er eu bod nhw’n digwydd o bryd i’w gilydd.

“Mae’n debyg mai dim ond pan gaiff rhywun ei anafu y clywn ni am ddigwyddiad fel hyn. Gyda rhywbeth fel hyn hefyd, mae wastad yn digwydd i’r person arall –  ond dyw bywyd ddim felly.”