Mae cân gan ddosbarth o blant o Wlad Thai am y Cymro Joe Ledley wedi denu nifer fawr o wylwyr ar wefan YouTube.
Defnyddir cân enwog Johnny Cash, ‘Ring of Fire’ fel alaw, ond mae’r plant wedi ychwanegu eu geiriau eu hunain, yn ogystal â symudiadau arbennig i gyd-fynd â nhw.
Gwelir poster mawr o Ledley, fu gynt yn chwarae i Ddinas Caerdydd ond sydd bellach yn un o sêr Celtic yn yr Alban, yng nghefndir y fideo.
Yn ôl y gân Ledley yw “draig canol cae Celtic” a dywed y plant “ei fod yn rhedeg lan a lawr y cae, heb golli ei wynt”.
Cyhoeddwyd y fideo ddydd Gwener ddiwethaf, ond mae eisoes wedi ei wylio mwy na 10,500 o weithiau.
Mae’r ‘Thai Tims’, fel yr adnabyddir hwy, wedi canu sawl anthem wahanol i anrhydeddu nifer o chwaraewyr clwb pêl-droed Celtic.
Dywedodd Ledley ar Twitter (yn Saesneg): “Hoffwn ddiolch i’r Thai Tims am y gân maen nhw wedi ei greu i mi. U Rock!!”